03 – 04 – Cynllun Popeth y Gallwch ei Fwyta

Cynllun Popeth y Gallwch ei Fwyta

Gan Joel Pridmore

Ym mis Mehefin, treuliais nifer o ddiwrnodau mewn cynhadledd i lawr yn Sir Benfro wledig, ac, am y rhan fwyaf o’r amser, nid oedd gennyf signal ffôn symudol, na Wi-Fi chwaith. Sut yn y byd wnes i ymdopi?! Sut yr oeddwn i’n gallu byw heb negeseuon e-bost a WhatsApp, a’m dos ddyddiol o femynnau (memes) doniol ar Instagram? Hyd yn oed yn fwy pwysig, beth am ddal i fyny gyda newyddion Cwpan y Byd?!

Petai rhywun yno ddim ond wedi rhannu ei gysylltiad Rhyngrwyd, rwy’n gwybod y byddai llawer ohonom wedi cael y fath fendith o hynny. Fodd bynnag, rwy’n siŵr y byddai yna ryw gyfyngiad wedi bod ar y nifer a fyddai wedi gallu mewngofnodi cyn i’r lwfans data ddod i ben.

Wrth gwrs, rwy’n gorliwio, ond roedd yn rhyfeddol pa mor ddibynnol yr oeddwn i ar y ddyfais fach yn fy mhoced, ac nid fi chwaith oedd yr unig un a oedd yn gweld eisiau fy nos arferol. Tybed a oes rhai ohonom yn hiraethu am ein cysylltiad data cymaint ag am fwyd?!

Yn y Beibl, mae yna stori am fachgen bach a gynlluniodd o flaen llaw pan aeth i wrando ar Iesu. Roedd ganddo bicnic yn barod. Ond doedd e ddim yn barod am yr hyn a fyddai’n digwydd i’r picnic hwnnw! Daeth y bocs bwyd yma, yn nwylo Iesu, yn bryd o fwyd i dorf o fwy na 5,000 o bobl. Roedd ychydig o fara a physgod, digon i un neu ddau, wedi bwydo mwy o bobl nag a fyddai’n ffitio yn unrhyw leoliad yn Aberystwyth!

Daeth pobl eraill yno y diwrnod hwnnw heb baratoi, ac aethant yn llwglyd, ond roedd parodrwydd y bachgen i rannu wedi arwain at bwffe gwyrthiol lle gallai pawb fwyta cymaint ag y gallent! Trwy rannu’r hyn a oedd ganddo a’i roi i Iesu, daeth y bachgen i fod yn ganolbwynt y digwyddiad goruwchnaturiol mwyaf rhyfeddol. Roedd pawb nid yn unig yn llawn, ond roedd yna hefyd ddeuddeg basged o fwyd ar ôl! Gallwch ddarllen yr hanes yn Efengyl Ioan, Pennod 6.

Efallai nad ydych chi wedi gweld gwyrth debyg i hon eto, ond mae yna wastad rywbeth arbennig iawn yn digwydd pan fydd un person yn rhannu’r hyn sydd ganddo yn ei ddwylo ag eraill. Efallai eich bod chi’n cario rhywbeth ar hyn o bryd a allai wneud gwahaniaeth mawr i rywun arall petaech yn ei rannu. Efallai y bydd bendithio rhywun o fasged picnic eich bywyd chi nid yn unig yn eu cyffwrdd, ond hefyd, efallai, yn golygu y byddwch chithau’n profi rhywbeth anhygoel eich hun!

’Nawr … yn ôl at fy mhroblem – a oes gan rywun gynllun data ‘popeth y gallwch ei fwyta’ y gall ei rannu â mi?