Sain Aber yn Jerwsalem – Rhifyn 4

Gan Mones Farah

Mae yna rywbeth am dreulio wythniwrnod yng nghwmni grŵp mawr obobl sy’n cynnwys unigolion o sawlcefndir, chwaeth a dyhead.

Yn ddiweddar, aeth grŵp o 30o bobl, o blwyf Aberystwyth ynbennaf, ynghyd ag ychydig o eglwysieraill, ar daith naw niwrnod oamgylch gwlad y Beibl. Nid taithgyffredin oedd hon – roedd hefydyn cynnwys canu mewn côr, a hynnymewn tri lleoliad gwahanol yn Israel.

Ymunodd y grŵp â’r gynulleidfayn Eglwys Anglicanaidd Haifa, ganarwain yr addoliad, ac yna aethymlaen i ganu yn Ysbyty Nasareth ynNasareth, cyn diweddu trwy ganuyn Eglwys Gadeiriol St George ynJerwsalem.

Roedd ein rhaglen yn cynnwysy goreuon ymhlith ein hemynauCymraeg a Saesneg, gan gynnwys‘Iesu, cyfaillf’enaid i’ i’r dôn‘Aberystwyth’,cerddoriaeth werinGymreig ar y delyn,y chwiban a’r ffidil,ynghyd â darnau agafodd eu canu ar ydelyn ac i gyfeilianty delyn. Roedd yrhaglen yn amrywiola rhyfeddol.

Rhwng ygwasanaethau a’rdigwyddiadau danarweiniad gan y grŵp, aethom hefyd i deithio yngNgwlad y Llaeth a’r Mêl, gwlad nadyw’n cael fawr ddim glaw ond syddeto’n ffrwythlon, yn doreithiog, ynhardd ac yn irlas.

Mae’n deg dweud bod mwyafrifaelodau’r grŵp, y côr a thîm blaen ytŷ, os nad pawb, yn ystyried y daithhon yn daith am oes. Cyfoethogwydein profiad gymaint gan y frainto gwrdd â phobl leol a threulioamser yn eu cwmni – yn Arabiaid acIddewon Israelaidd, yn Gristnogiona Mwslimiaid Palesteinaidd, ynweithwyr seciwlar mewn gwestai,ac yn wirfoddolwyr, lleianod a staffmewn cwfaint.

Hyd yn oed cyn i ni gychwyn adream Gymru, roedd sawl un wedigofyn i ni, ‘Ydych chi’n dod eto?’, agofynnodd un neu ddau yn y grŵp ini drefnu taith arall!