Diolch yn fawr iawn i bawb a anfonodd lun y goeden Nadolig wedi’i lliwio ar gyfer y gystadleuaeth uchod. Roedd y safon yn rhagorol, gydag un bachgen mor ifanc â chwech oed wedi gwneud gwaith arbennig o dda.
Yr enillydd y tro hwn yw Bethany o Norwich. Llongyfarchiadau calonnog i ti, Bethany, a gobeithio y cei di amser wrth dy fodd yn sglefrio wrth y môr!
Cofiwch gystadlu eto yn rhifyn nesaf AberJabber, a dywedwch wrth eich ffrindiau am wneud hefyd!