Cynhadledd Elim Sound – llwyddiant ysgubol! – Rhifyn 4

gan Diana Gordon

Ar yr 2il a 3ydd o Dachwedd, agorodd Elim Sound ei ddrysau i gynadleddwyr y Gynhadledd Elim Sound gyntaf erioed. Gyda grŵp o saith o Elim Aberystwyth, aethom ar ein taith i leoliad y gynhadledd yn Birmingham, sef City Church Birmingham, adeilad canolog a helaeth a allai’n hawdd letya’r niferoedd mawr a ddaeth yno o bell. Does dim amheuaeth bod y digwyddiad wedi golygu misoedd o baratoi a gwaith caled, heb sôn am yr ymarfer a gwirio’r sain.

Ar y nos Wener, cawsom gyfle i gymryd rhan mewn addoliad, gweddi a chyfarfyddiad â Duw a barodd am bum awr. Roedd bandiau amrywiol ledled y Deyrnas Unedig yn arwain yr addoli, ac yn eu plith yr oedd ein gweinidog ni, Joel Pridmore, sy’n un o aelodau craidd Elim Sound. Ar ôl noson anhygoel, aethom i noswylio yn ein gwelyau yn y Premier Inn, yn barod ar gyfer y diwrnod canlynol. Dechreuodd yr ail ddiwrnod gyda chyfnod o addoli cyffredinol ac araith gan y prif siaradwr, Chris Cartwright. Yna, cawsom gyfle i fynd i’r gweithdai amrywiol. Roedd y gynhadledd yn darparu ar gyfer amrywiaeth eang o bobl, yn cynnwys peirianwyr sain, cerddorion, cantorion, cyfansoddwyr caneuon, neu’r rhai a oedd â diddordeb yn yr addoli yn unig. Roedd y dewis yn eang ac anodd, ond rwy’n hyderus ein bod ni i gyd wedi dod o hyd i weithdai a oedd o ddiddordeb personol i ni. Roedd hwn yn ddiwrnod o ddysgu, o deimlo cwlwm agosrwydd, ac o fwynhad.

Yn dilyn sesiwn arall o addoli, daeth y gynhadledd i ben am 5.00pm. Rwy’n siŵr bod yna broblemau wedi codi yn ystod y gynhadledd gyntaf hon, ond doedd dim yn amlwg i mi. Roedd popeth yn drefnus, yn broffesiynol, yn gyffrous ac yn ysbrydol. Roedd yna rywbeth at ddant pawb, hyd yn oed os nad oedd rhywun yn rhan o fand. Duw oedd canolbwynt yr ysbrydoliaeth a’r cysegru drwyddi draw. Rwy’n barod i gofrestru ar gyfer y flwyddyn nesaf – gobeithio y byddwch chi yno hefyd!