03 – 02 – Hanes Castell Aberystwyth – Rhan 2

Hanes Castell Aberystwyth – Rhan 2

Gan John Jackson

Aberystwyth CastleEr gwaetha’r dechreuad gelyniaethus, buan y daeth Aberystwyth yn rhan o’r gymuned leol. Mor gynnar ag 1310, roedd dros draean y rhai a oedd â deiliadaeth freintiedig yn y dref yn Gymry. Dirywiodd y castell yn ystod canrif heddychlon wrth i wendidau adeileddol bentyrru a’r gwarchodlu gael ei grebachu i ddim ond 10 dyn. Nid oedd gelyn pennaf Aberystwyth yn ystod y bedwaredd ganrif ar ddeg wedi gwahaniaethu dim rhwng Cymry a Saeson – bu farw bron i hanner y boblogaeth yn ystod y Pla Du.

Yn anffodus, nid oedd deddfau Lloegr, a oedd yn llywodraethu dros Gymru, yn adlewyrchu’r cytgord hwn; roeddent yn ffafrio Saeson yn fwriadol, a hynny mewn amrywiol ffyrdd. Aeth y Saeson ati yn achlysurol, ac mewn modd mympwyol, i gymryd mantais o’r breintiau hyn, a golygodd hyn nad oedd tensiynau hiliol fyth yn diflannu o’r tir yn llwyr.

Gwelwyd mynegiant i’r anniddigrwydd hwn yng ngwrthryfel Glyndŵr, a ddechreuodd yn 1400. Yn 1401, llosgwyd tref Aberystwyth, ond daliodd y castell ei dir, diolch i gyflenwadau o’r môr. Fodd bynnag, parodd y gefnogaeth i Owain gan Ffrainc i longau Ffrengig danseilio’r fantais hon, a chwympodd y castell yn 1404. O Fachynlleth yr oedd Owain yn llywodraethu yn y lle cyntaf, ond erbyn 1405 roedd wedi symud ei lys i Gastell Aberystwyth. Yma yr arwyddodd gytundeb â llysgennad Siarl VI o Ffrainc, ac mae’r cytundeb hwnnw wedi goroesi ym Mharis.

Yn anffodus i Owain, dirywiodd cefnogaeth Ffrainc yn ystod y flwyddyn ganlynol, a dechreuodd lluoedd Lloegr chwalu ei enillion. Yn 1407, ymosododd llu o 2,400 o ddynion ar y castell o dan gyfarwyddyd yr athrylith milwrol, y Tywysog Harri (Harri V). Daethant â chanonau hefyd – a dyma’r tro cyntaf y ceir cofnod o arfau o’r math hwn yn cael eu defnyddio ym Mhrydain. Er hynny, daliodd Castell Aberystwyth ei dir yn gadarn, diolch i arweiniad Owain, gyda’r canon enwog, Messenger, yn ffrwydro, a gweddill y canonau ym methu torri trwy’r gaer.

Er gwaetha’r amddiffynfa gadarn hon, ni lwyddwyd i newid cwrs y rhyfel. Tra oedd Owain yn rhywle arall, llwyddodd ail ymosodiad, yn 1408, i gipio’r castell. Daliodd Owain Gastell Harlech hyd nes 1409, ond wedi hynny, y cyfan y gallai ei wneud oedd arwain cyrchoedd o’r mynyddoedd.

Mae’n debyg i Owain farw yn 1415. Y tro nesaf y byddai arfau gael eu codi yn erbyn Coron Lloegr yn Aberystwyth, byddai’r sialens yn dod o gyfeiriad hollol wahanol.

Y Rhifyn Nesaf: Y Rhyfel Cartref