03 – 03 – Stordy’r Jiwbilî – y banc bwyd sy’n gwasanaethu Aberystwyth a’r ardal oddi amgylch

  • David Gregory
  • Rhagfyr 9, 2018
  • Sylwadau wedi eu Diffodd ar 03 – 03 – Stordy’r Jiwbilî – y banc bwyd sy’n gwasanaethu Aberystwyth a’r ardal oddi amgylch

Stordy’r Jiwbilî … y banc bwyd sy’n gwasanaethu Aberystwyth a’r ardal oddi amgylch

Gan Malcolm Dye

A oes gwir angen banc bwyd yn Aberystwyth yn yr 21ain Ganrif? Dyna’r cwestiwn yr oeddem wedi’i ofyn i ni ein hunain yn 2010. Ar y pryd, nid oeddem yn siŵr, ond roeddem yn teimlo bod Duw yn ein galw i fod yn rhan o wasanaeth fel hwn yn y gymuned. Wrth edrych yn ôl, ‘oes’ yn bendant yw’r ateb. Mae Duw bob tro yn iawn!

Yn 2012, blwyddyn gyflawn gyntaf y banc bwyd, roeddem wedi dosbarthu 136 o becynnau bwyd, ac yn 2017 dosbarthwyd 681. Mae hynny’n gynnydd o 400%. Yn 2018, rydym yn dosbarthu cyfartaledd o 13 o becynnau bwyd yr wythnos.

Enw’r banc bwyd yw Stordy’r Jiwbilî, a chafodd ei sefydlu gan grŵp o bobl o Eglwys y Sts Anne ym Mhenparcau ac Eglwys Llanychaearn yn Rhydyfelin. Erbyn hyn mae gennym dîm o 20 o wirfoddolwyr (nid oes neb yn cael ei dalu), gan gynnwys pobl o eglwysi eraill yn yr ardal, yn ogystal â phobl nad ydynt yn eu hystyried eu hunain yn Gristnogion.

Felly, pam y mae angen banc bwyd? Y broblem yn y bôn yw nad oes gan nifer fawr o bobl lawer o arian (neu unrhyw arian o gwbl) wedi’i gynilo. Felly, pan fydd eu hincwm yn gostwng, neu filiau annisgwyl yn cyrraedd, does yna’n fuan iawn ddim digon o arian i brynu hanfodion bywyd. Pan na fydd pobl yn gallu prynu bwyd, yna gall y banc bwyd gamu i’r adwy i roi cyflenwad byrdymor o fwyd i’w helpu yn ystod eu hargyfwng. Rydym yn gweithio gydag asiantaethau rheng flaen, sydd â’r arbenigedd angenrheidiol i asesu anghenion pobl. Os gwelir bod yna angen, maent yn rhoi taleb fwyd i’w cleientiaid, sydd wedyn yn cyfnewid y daleb honno am fwyd o’r banc bwyd. Mae ein hasiantaethau partner yn cynnwys Cyngor ar Bopeth, y Gwasanaethau Cymdeithasol, a llawer rhagor. Rydym yn disgwyl bod yr asiantaethau yn helpu eu cleientiaid i oresgyn yr argyfwng y maent ynddo ar y pryd.

Rydym yn helpu pob math o bobl; pobl sengl (60%), cyplau (20%) a theuluoedd o bob maint (20%), a hynny am sawl rheswm. Fodd bynnag, problemau o ran budd-daliadau sy’n cyfrif am dros hanner ein hatgyfeiriadau. Ond does dim rhaid i’r broblem fod yn un ariannol. Er enghraifft, roeddem wedi gallu helpu dyn oedrannus, eiddil a oedd wedi cael ei ryddhau o’r ysbyty i’w gartref, lle nad oedd bwyd ar ei gyfer, ac yntau’n methu mynd allan i brynu unrhyw beth.

Pobl hael yn y gymuned sy’n rhoi’r bwyd, ac archfarchnadoedd lleol sy’n darparu mannau lle gall y bwyd gael ei gasglu. Heb y mewnbwn hwn, ni fyddai Stordy’r Jiwbilî yn gallu gweithredu. Felly, mewn gwirionedd, mae’r cymorth ar gyfer y rhai sydd mewn angen yn dod o’r gymuned o’u cwmpas, a dyna sut y dylai fod.