Aberystwyth a Rhyfel 1914-1919 – Rhifyn 4

gan Kate Sullivan

Profiad, Effaith, Etifeddiaeth

Aberystwyth a Rhyfel 1914-1919: Profiad, Effaith,Etifeddiaeth: mae hwn yn broject cymunedol sy’ncael ei ariannugan Gronfa Dreftadaethy Loteria’i arwain gan yrAdran Hanes aHanes Cymru ymMhrifysgol Aberystwyth.Mae’ndwyn ynghydLyfrgell GenedlaetholCymru, ArchifdyCeredigion,Amgueddfa Ceredigion,Canolfany Celfyddydau,Aberystwyth, a grwpiau perfformio a threftadaethcymunedol lleol, a hynny er mwyn dod â hanesiona phrofiadau lleol, o fod yn yng nghanol rhyfel 100mlynedd yn ôl, yn fyw.

Nod y project yw creu etifeddiaeth gymunedol y gallpobl fynd ati i’w darganfod a’i dehongli yn y dyfodol,ac mae ein gwirfoddolwyr yn ymchwilio i hanesionlleol sy’n ffurfio hanes y dref a’r ardaloedd oddiamgylch adeg y rhyfel. I wneud hyn, mae ganddyntfynediad arbennig i gasgliadau archifol rhyfeddol Aberystwyth,ac maent yn cael eu hyfforddi i ymchwilioi gofnodion, llythyrau, papurau newydd, ffotograffau,cofebau rhyfel ac atgofion teuluoedd. Mae ynahefyd sesiwn galw heibio fisol yng nghaffi AmgueddfaCeredigion, lle y gall gwirfoddolwyr, dros baned,ofyn cwestiynau a rhannu canfyddiadau.

Ein hamcan yw adrodd stori Aberystwyth a’r rhyfeltrwy berfformiadau, arddangosfeydd a digwyddiadauarbennig, yn ogystal â thrwy archif ar-lein a mapdigidol. I nodi penwythnos y Cadoediad, dangoswydy ffilm Journey’s End (1930) yn Amgueddfa Ceredigion,ac rydym newydd lansio arddangosfa o ddelweddaua lluniau o’r Rhyfel Byd Cyntaf yng nghaffiCanolfan y Celfyddydau, a fydd yn cael ei chynnal tan 2 Ionawr 2019. Eitem allweddol yn yr arddangosfayw map o Aberystwyth adeg y rhyfel, sy’n nodicartrefi 200 o’r 800 a rhagor o filwyr a aeth o’r dref iryfel. Mae hwn yn rhoi rhagolwg ar ein project mapdigidol cyfredol, lle rydym yn anelu at nodi pob tŷ ynyr ardal yr aeth rhywun ohono i’r rhyfel, a hynny arwefan a fydd yn hygyrch i’r cyhoedd.

Mae yna hefyd ddigoneddo ddigwyddiadau eraillwedi’u cynllunio ar gyfery flwyddyn nesaf; bydd yrhain yn cynnwys teithiaucerdded tywysedig, cyflwyniadauar ganfyddiadaui grwpiau cymunedol,cyngerdd a fydd yn atgynhyrchucerddoriaeth yffoaduriaid o Wlad Belg agafodd gartref yn Aberystwythyn ystod y rhyfel,ynghyd â pherfformiadgan theatr gymunedolyn seiliedig ar lythyrauBilly a Dot, capten yngNghatrawd Swydd Gaer amyfyrwraig yn y brifysgol,a oedd wedi cwrdd panoedd y gatrawd yn Aberystwythyn 1915. LladdwydBilly yn 1917; bu Dot fywnes yr oedd yn 94 oed,ond ni phriododd, a chadwoddlythyrau Billy ar hydei hoes. Roedd darlleniadauo’u llythyrau, a gafoddeu cyflwyno gan fyfyrwyro Ysgolion Penglaisa Phenweddig, yn ffurfiorhan o’r gwasanaeth diweddaryn Eglwys San Mihangeli nodi canmlwyddianty Cadoediad.

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli ar y project neu gymryd rhan yn ein digwyddiadau a gweithgareddau, neu osoes gennych atgofion teuluol a hanesion am y rhyfel yr hoffech eu rhannu â ni, cysylltwch â Dr Siân Nicholas, Arweinydd yProject, ar shn@aber.ac.uk, neu Kate Sullivan, Cydgysylltydd y Project, ar kas99@aber.ac.uk.Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol – blog: https://aberystwyth-at-war.blogspot.com; Facebook: https://www.facebook.com/aberystwyth.atwar; Twitter: https://twitter.com/AtAberystwyth. Hoffem ddiolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol amwneud y project hwn yn bosibl. Delweddau trwy garedigrwydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru.