03 – 01 – Y maer, y rabbi a’r ficer

Y maer, y rabbi a’r ficer

Gan Mones Farah

Cefais gyfle’n ddiweddar i sgwrsio â Maer newydd Aberystwyth dros baned o goffi yn un o gaffis lleol y dref, a gofynnais ychydig o gwestiynau iddo er mwyn dod i’w adnabod yn well.

Pwy yw Talat Chaudri?

Pwnjabi Prydeinig, a’m tad wedi’i eni yn yr hyn a oedd yn India Brydeinig.
Daeth fy nhad i Brydain yn eithaf buan ar ôl i Bacistan gael ei ffurfio. Ymgartrefodd y teulu yn Essex, ac yno yr oeddwn yn byw ac yn tyfu i fyny yn yr 80au a’r 90au. Roeddwn yn teimlo’n wahanol oherwydd fy nghefndir estron, a deuthum wyneb yn wyneb â hiliaeth. Roedd fy hil gymysg yn golygu nad oeddwn yn teimlo fy mod yn perthyn i’r diwylliant Pacistanaidd nac i’r diwylliant Prydeinig. Ddiwedd y 90au, roedd hiliaeth fel petai wedi lleihau ac, yn fy marn i, parhaodd i leihau hyd at refferendwm Brexit, pan ddechreuodd gynyddu eto.

Pam Cymru ac Aberystwyth?

Mae bwrw gwreiddiau yng Nghymru yn bwysig iawn i mi, ac rwy’n mawr obeithio fy mod yn cyfrannu rhywbeth i’r ardal leol, yn arbennig wrth ddod â phersbectif a phrofiad diwylliannol gwahanol i bair cymysg lleol Aberystwyth. Cefais groeso cynnes i’r gymuned hon, ac rwyf wedi rhoi rhan fawr o’m bywyd iddi, yn ogystal ag i’r Gymraeg a’r diwylliant Cymreig. Yn dilyn gradd mewn Hanes yn Rhydychen, deuthum i Aber i wneud Gradd Feistr ac yna PhD yn Adran y Gymraeg, ac rwyf wedi bod yma ers hynny.

Yr haf hwn, byddaf wedi byw yn Aberystwyth am 20 mlynedd. Dechreuais ymwneud â’r byd gwleidyddol gyntaf trwy gael fy nghyfethol pan gododd swydd wag canol tymor, ac yna trwy i mi sefyll dros Ward Penparcau, ac wedyn Ward y Gogledd. O ganlyniad, chwaraeais ran helaeth mewn nifer fawr o weithgareddau a grwpiau lleol, a roddodd brofiad gwych i mi, ac arweiniodd hyn at gael fy enwebu a’m hethol yn faer ar gyfer tymor 2018-2019. Mae bod ar y cyngor tref yn rhoi ymwybyddiaeth o doriadau ariannol y llywodraeth ac effaith hynny ar gynghorau sir, sydd wedyn yn cael ei throsglwyddo i’r cynghorau cymuned. Mae hyn yn effeithio ar bob math o wasanaethau, gyda’r bylchau’n gorfod cael eu llenwi fwy a mwy gan gynghorau lleol.

Felly, beth y mae maer yn ei wneud, a beth yr ydych chi’n gobeithio ei gyflawni yn ystod eich tymor?

Prif ddyletswyddau maer yw cynnull a chadeirio cyfarfodydd; ymweld â chynghorau cymuned, grwpiau a gweithgareddau lleol a’u hyrwyddo; helpu i godi rôl a phroffil Aberystwyth a’i chyngor yn lleol a thu hwnt; a chydweithio â chynghorwyr eraill a buddsoddwyr i sicrhau bod y dref yn denu mewnfuddsoddiad.

Hoffwn fod yn faer sy’n atgoffa Aberystwyth i ddathlu ei hamrywiaeth, ac i gydnabod yr holl fanteision sy’n dod yn sgil hynny. Felly, mae perthynas gryfach â’r brifysgol a’r ysbyty yn bwysig, ac yn allweddol o ran parhad yr amrywiaeth yn ein tref.

Gan fy mod yn dod o gefndir Mwslimaidd, roedd yn bwysig i mi fod gennyf gaplan o ffydd arall, ac felly roeddwn wrth fy modd pan gytunodd Dan Cohn Sherbock, Rabbi Iddewig, i fod yn gaplan i mi am y flwyddyn. Mae crefyddau yn brif achos gwrthdaro ym marn gormod o bobl, ond o’m hastudiaethau a’m profiad, nid felly y mae hi wedi bod bob amser; yn wir, mae crefyddau yn gallu cyfrannu’n helaeth at les cymdeithas ac er budd iddi.

Nid oedd Rabbi Dan wedi gallu bod yn bresennol yn seremoni sefydlu’r Maer gan ei fod mewn cynhadledd i hyrwyddo gwell perthnasoedd rhwng y crefyddau Iddewig, Mwslimaidd a Christnogol. Felly, daeth un o’n gweinidogion Cristnogol i gymryd lle Rabbi Dan, gan gyfleu neges gref amrywiaeth, a’r cyfraniad cadarnhaol posibl a all ddeillio o hyn.